Canu i'r adar / Singing to the birds 2021

Irish and Welsh Folk Music and Poetry

Nos Fercher 15/9
Ynys Hir, Eglwys Fach, Ceredigion

Doors open at 5:30PM, music from 6:00PM

Tocynnau £5, plant dan 12 am ddim.
Bwyd ar gael - gweler tudalen Eventbrite.

Nos Wener 17/9
Canolfan Owain Glyndwr Centre, Machynlleth

Music from 7:30PM

Tocynnau £5, plant dan 12 am ddim.
Bwyd ar gael ar y noson.
Caffi Alys 01654 703336 - CAFFI ALYS POSTER

Nos Sadwrn 18/9
Ty-Siamas, Dolgellau

Ty-Siamas Wedi'w canslo

Nos Sul 19/9
Canolfan Ymwelwyr, Cwm Elan, Rhaeadr

Open from 11:30, Music from 1:00PM

Mynediad am ddim

Udaras na Gaeltachta   Celti Neighbours   Noson Allan
Click here to see more details on Facebook

Taith Cymru

Wedi'w canslo

Colomen Colombia

RhannuDysguDathluCefnogi
CompartirAprendeCelebrarApoyar
SharingLearningCelebratingSupporting

Seilir y lwyddiant ein taith perfformio ‘Canciones de los montañes/ Cân y mynyddoedd’ pan aeth pedwar cerddor a bardd o Gymru ar daith i ogledd Colombia ym mis Hydref 2019, a gefnogwyd yn rhannol gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Trwy’r fenter honno, cafwyd effaith rymus o ran datblygu cyfleoedd perfformio at y dyfodol, meithrin cysylltiadau rhyngweithiol rhwng pobl a chymunedau, a chynyddu ymwybyddiaeth yng Ngholombia o iaith a diwylliant Cymru. Mae’r cyffro a grëwyd yn parhau i ddatblygu goblygiadau newydd ac ychwanegol. Hefyd roedd yn hwyl aruthrol, ac arweiniodd at nifer o gysylltiadau cyfeillgar hynod werthfawr.

Llysgenhadon naturiol yw perfformwyr, fel y gwelwyd yr Hydref diwethaf. ‘Llysgenhadon y gair’ ydynt, ac maent yn rhannu’n naturiol, ac mae eu gallu celfyddydol, eu profiad a’u hyfforddiant yn golygu eu bod yn agored i ddeialog, rhyngweithio a datblygu cyfleoedd a chysylltiadau newydd. Mae hyn yn wir yn benodol am ymarferwyr celfyddydau traddodiadol, wedi eu trwytho yn eu diwylliant cynhenid, ac sy’n frwdfrydig i edmygu a dysgu o ddiwylliannau eraill. Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r fenter newydd hon - boed o Gymru neu Golombia - wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo pob iaith a diwylliant cynhenid. Daw tri o gyfranogwyr Colombia o gymunedau ieithyddol brodorol, ac yn yr un modd ag yr ydym ni yma yng Nghymru’n ymhyfrydu mewn hyrwyddo ein diwylliant ar draws y byd a chymryd ein lle ar lwyfan y byd, maent yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau a deialog gyda ni yma, er mwyn cyfoethogi a helpu diogelu’r ieithoedd a chymdeithasau sydd mewn perygl yn eu gwlad nhw.

Manylion bellach (PDF) yma

Yr amcan

Defnyddio caneuon, straeon a barddoniaeth i bontio rhwng pobl a chymunedau Cymru ac Euskal Herria - Gwlad y Basg. Wrth godi'r fath bont, prin bod angen unrhyw waith adeiladu gan mor debyg, mor gydnaws â'i gilydd, ydi diwylliannau'r ddwy wlad. Ac mae hi'n bont sy'n tyfu'n uwch ac yn fwy cadarn o hyd.

Y criw

Dyma ni'r trefnwyr, pedwar o Gymru a phedwar o Euskal Herria.

Cymru

Meic Llewellyn
Osian Morris
Nicolas Davalan
Gail Jenkins

Euskal Herria

Ana Andueza
Igor Otxoa
Itziar Albes
Jurdana Martin Retegi

Am fwy o wybodaeth Pam Lai?’ cliciwch yma

Ac yn cefnogi mae yna fyddin o wirfoddolwyr brwdfrydig, ymroddedig a chreadigol o bob rhan o'r ddwy wlad.

Cysylltu â ni

ffôniwch ni: +44(0)1650 511350
ysgrifennwch atom: Pam Lai?, Ty Careg, Darowen, Machynlleth, Powys, SY20 8LW